


Os byddwch chi a’ch dosbarth yn cydweithio, dylech fod yn gallu cael cryn dipyn o atebion i’ch holiadur. Fe allech:
Ystyriwch sut yr ydych yn mynd i gyflwyno’r holiadur. A wnewch chi argraffu copïau i’w dosbarthu i’ch atebwyr eu llenwi? A fyddai’n well gennych eistedd i lawr gyda hwy a’u holi wyneb yn wyneb? Gallai hyn fod yn ffordd dda o gael atebion llawn, ond nid yw’n ddienw felly gallai pobl deimlo’n fwy anghyffyrddus am ateb.
Rhybudd iechyd! Ni ddylech ofyn i ddieithriaid lenwi’r holiadur, ac os nad yw pobl eisiau ateb unrhyw un o’r cwestiynau, eu dewis nhw yw hynny.
Ar ôl ichi orffen cynnal eich arolwg ewch i weld sut i Ddadansoddi’r canlyniadau.
