



A fyddech chi’n rhoi gwaed neu’n cofrestru â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG? Beth am roi mêr esgyrn? A ydych chi’n credu ei bod yn iawn rhoi trawsblaniadau i bobl sydd wedi gwneud eu hunain yn sâl drwy ysmygu neu yfed? Beth a ddywed eich crefydd am helpu pobl eraill drwy roi? Beth am eich ffrindiau – beth yw eu barn hwy?
Mae’n anodd darbwyllo pobl ei bod yn syniad da iddynt roi oni fyddwch yn gwybod yr hyn y maent yn ei feddwl eisoes. Mae pobl yn credu gwahanol bethau am roi ac weithiau maent yn credu pethau nad ydynt o reidrwydd yn wir. Gall y mythau hyn atal pobl rhag rhoi – ac arwain at farwolaeth pobl sâl, y gellid bod wedi’u helpu fel arall.
Pam na chewch sgwrs â’ch ffrindiau neu deulu a chanfod beth yw eu barn hwy? Gallech hyd yn oed wneud arolwg i gael darlun clir.
Chwaraewch Donor Dash i gael syniad o’r hyn y gallech ei ddarganfod.
Ysgrifennwch holiadur i gael gwybod.
Dosbarthwch yr arolwg.
Dadansoddwch y canlyniadau a gewch yn ôl gan y bobl a holwch.
