Give and let live

Adran yr athro

teacherszone

Dolennau defnyddiol

Sefydlwyd Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG fel Awdurdod Iechyd Arbennig ym mis Hydref 2005. Ei waith yw darparu cyflenwad effeithlon a dibynadwy o waed, organau a gwasanaethau eraill i’r GIG.

Mae adran Rhoi a Thrawsblannu Organau Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn canolbwyntio ar sut i achub neu wella bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn drwy drawsblannu organau. I weld sut mae organau a meinwe'n cael eu rhoi, pam mae trawsblaniadau'n bwysig a sut maent yn gallu newid bywydau pobl, edrychwch ar www.organdonation.nhs.uk



Mae Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG hefyd yn gyfrifol am gludo gwaed, cyfansoddion gwaed, cynnyrch gwaed a meinwe o 15 canolfan waed i unrhyw le yng Ngogledd Cymru a Lloegr. I weld pa mor bwysig yw rhoi gwaed, sut y caiff y gwaed hwnnw ei ddefnyddio ac i chwarae’r gemau yn yr Adran Hwyl er mwyn dysgu mwy am waed, ewch i www.blood.co.uk


Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Cenedlaethol yr  Alban

Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Cenedlaethol yr Alban
Darganfyddwch sut i roi gwaed os ydych yn byw yn yr Alban, beth yw’r Addewid Tair Gwaith a’r holl ffeithiau am waed:

Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Cenedlaethol yr Alban
Ellen's Glen Road
Caeredin EH17 7QT
Ffôn: 0131 536 5700
Gwefanwww.scotblood.co.uk


The Welsh Blood Service Gwasanaeth Gwaed Cymru

The Welsh Blood Service Gwasanaeth Gwaed Cymru
Darganfyddwch sut i roi gwaed os ydych yn byw yn Ne, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, pwy all roi gwaed a sut y gallwch ymuno â Chofrestrfa Mêr Esgyrn Cymru:

The Welsh Blood Service Gwasanaeth Gwaed Cymru
Ely Valley Road
Talbot Green
Pontyclun CF72 9WB
Ffôn: 01443 622 000
Gwefanwww.welsh-blood.org.uk


Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Gogledd Iwerddon

Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch sut i roi gwaed os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon:

Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Gogledd Iwerddon
Lisburn Road
Belfast BT9 7TS
Ffôn: 0500 534 666
GwefanGwasanaeth Trallwysiad Gwaed Gogledd Iwerddon


GIG

Cofrestrfa Mêr Esgyrn Prydain (BBMA) – rhan o NHSBT
Mae Cofrestrfa Mêr Esgyrn Prydain (BBMA) yn recriwtio rhoddwyr o blith y boblogaeth o roddwyr gwaed ac yn cael ei chynnal gan y Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol ar ran gwasanaethau trallwysiad gwaed eraill y DU. Darganfyddwch sut y gall mêr esgyrn arbed bywydau pobl a pham fod dod yn rhoddwr mor bwysig.
GwefanCofrestrfa Mêr Esgyrn Prydain


Ymddiriedolaeth Anthony Nolan

Ymddiriedolaeth Anthony Nolan
Mae Ymddiriedolaeth Anthony Nolan yn cymryd bywydau yn ôl o lewcemia drwy reoli a recriwtio rhoddwyr newydd i gofrestr mêr esgyrn fwyaf y DU. I ddarganfod sut y gallwch chi arbed bywydau ymwelwch â:
Gwefanwww.anthonynolan.org.uk


Transplants in mind

Yr Ymddiriedolaeth Trawsblannu
Mae'r Ymddiriedolaeth Trawsblannu'n helpu i achub bywydau drwy hybu ymwybyddiaeth ynghylch rhoi organau a meinwe ar gyfer trawsblaniadau yn ogystal â chyllido gwaith ymchwil gwerthfawr i bob agwedd ar roi a thrawsblannu. Mae'r elusen hefyd yn trefnu wythnos o weithgareddau hyrwyddo ym mis Gorffennaf bob blwyddyn a elwir yn 'Wythnos Genedlaethol Trawsblannu'.
Gwefanwww.transplantsinmind.org.uk


Cymdeithas Prydain ar gyfer Bancio Meinwe

Cymdeithas Prydain ar gyfer Bancio Meinwe
Mae Cymdeithas Prydain ar gyfer Bancio Meinwe yn egluro beth a olygir wrth roi meinweoedd, sut y defnyddir meinweoedd wedi eu rhoi, a sut mae pobl wedi elwa o feinweoedd wedi eu rhoi.
Gwefanwww.batb.org.uk


Ffederasiwn Arennau Cenedlaethol (NKF)

Ffederasiwn Arennau Cenedlaethol (NKF)
Y Ffederasiwn Arennau Cenedlaethol yw’r unig elusen yn y DU sy’n cael ei chynnal gan gleifion arennau i gleifion arennau. Ei nod yw hyrwyddo, drwy’r Deyrnas Unedig, yr arfer a’r driniaeth feddygol orau o safbwynt yr arennau, iechyd pobl sy’n dioddef o glefyd yr arennau neu fethiant yr arennau, a chefnogi anghenion cysylltiedig y perthnasau a'r ffrindiau hynny sy’n gofalu am gleifion yr arennau.
Gwefanwww.kidney.org.uk


Ymchwil yr Arennau y DU

Ymchwil yr Arennau y DU
Ymchwil yr Arennau y DU yw’r brif elusen yn y DU sy'n rhoi arian tuag at ymchwil sy’n anelu at atal, trin a rheoli clefyd yr arennau. Mae Ymchwil yr Arennau y DU hefyd yn gwella gofal y cleifion ac yn codi ymwybyddiaeth am glefydau’r arennau.
Gwefanwww.kidneyresearchuk.org


Cymdeithas Cleifion Arennau Prydain (BKPA)

Cymdeithas Cleifion Arennau Prydain (BKPA)
Mae Cymdeithas Cleifion Arennau Prydain, a sefydlwyd ym 1975, yn elusen gofrestredig sy’n darparu help, cyngor a chymorth ariannol i gleifion arennol o bob oed. Mae’n lobïo’r Llywodraeth hefyd am fwy o gyfleusterau a chyfleusterau gwell a chyllid i wella'r gofal a roddir i bobl gyda chlefyd arennol.
Gwefanwww.britishkidney-pa.co.uk


Rhwydwaith Teuluoedd Rhoddwyr
Cynhelir y Rhwydwaith Teuluoedd Rhoddwyr gan deuluoedd o roddwyr ar gyfer teuluoedd rhoddwyr. Mae ganddi ddau o brif amcanion: cefnogi teuluoedd rhoddwyr a hybu rhoi organau a meinweoedd.
Gwefanwww.donorfamilynetwork.co.uk

panel