
Mae’r wefan hon yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol a deunyddiau rhyngweithiol neu glywedol i gyd-fynd â’ch addysgu:
Ffilm ragarweiniol Give and Let Live – mae’r ffilm fer hon yn gosod yr awyrgylch ar gyfer y deunyddiau ac yn rhoi golwg gyflym i’r myfyrwyr ar pam fod rhoi yn ystod byw a/neu ar ôl marwolaeth yn bwysig ac yn beth gwerthfawr i’w wneud.
Map y Rhoddwr – crwydrwch o gwmpas Map y Rhoddwr i ddarganfod ble i roi yn lleol.
Addewid rhoi gwaed – gall myfyrwyr iau addo rhoi gwaed pan gyrhaeddant 17 oed.
Ffeithiau am roi organau – ffeithiau allweddol am bob agwedd yn ymwneud â rhoi, gan gynnwys ystyriaethau am genedligrwydd a chrefydd.
Corff y rhoddwr – mae’r Corff yn cynnwys gwybodaeth ffeithiol am waed, mêr esgyrn, meinwe ac organau. Gellir ei ddefnyddio i gyflwyno’r pwnc i fyfyrwyr sydd ag ychydig o ddealltwriaeth o’r angen am y rhannau hyn o’u cyrff.
Sesiwn rithwir rhoi gwaed – mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn egluro’r broses o roi gwaed.
Storiau go iawn – gallwch wylio ffilmiau neu ddarllen nifer o astudiaethau achos am bobl sydd wedi elwa o neu a effeithiwyd gan roi gwaed, organau, meinwe neu fêr esgyrn.
Cwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol – ceir tri chwis gwir ac anwir rhyngweithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth (ar gyfer gwaed, organau/meinwe a mêr esgyrn) a gêm ryngweithiol am roi o’r enw Bingo’r Corff. Ceir templad llythyr rhyngweithiol hefyd o’r enw Safbwyntiau, i helpu myfyrwyr i greu llythyr at arweinydd crefyddol.
