



Mae Give and Let Live yn adnodd addysgol gan Adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Nod yr adnodd yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i fyfyrwyr 14-16 oed am faterion allweddol sy’n gysylltiedig â rhoi rhannau o’u corff, naill ai yn ystod eu hoes neu ar ôl marw, i helpu eraill. Mae’n rhoi adnoddau creadigol a ffeithiau a ffigurau manwl ichi er mwyn rhoi bywyd i’r pwnc. Ond peidiwch â gwrando arnom ni yn unig, gwrandewch ar yr hyn sydd gan athrawon eraill i’w ddweud am y pecyn.
“Ni fyddem yn poeni o gwbl am ddefnyddio’r deunydd hwn gyda fy ngrŵp blwyddyn neu fy mhlant fy hun hyd yn oed pan fyddant yn ddigon hen. Mae’n adnodd amserol y bu mawr ei angen.”
Athro ABChI/Dinasyddiaeth, Lloegr
“Mae nodiadau’r athro’n fanwl gyda chyfoeth o wybodaeth gefndir.”
Cydlynydd Addysg Gymdeithasol, yr Alban
“Un o gryfderau penodol yr adnodd yw’r amrywiaeth eang o ddeunyddiau/astudiaethau achos enghreifftiol sy’n sicr yn ysgogi meddwl ac a gynllunnir i ennyn diddordeb disgyblion mewn dadl a thrafodaeth.”
Pennaeth, Cymru
Pecyn athrawon
Yn ogystal â’r wefan hon, mae pecyn athrawon ar gael sy’n awgrymu cynlluniau gwers, taflenni ffeithiau a thaflenni gweithgaredd, ac wyth cerdyn astudiaeth achos ar gyfer myfyrwyr. Cynlluniwyd y deunyddiau ar gyfer yr hyblygrwydd mwyaf posibl er mwyn mynd i’r afael â’r prosiect yn gyfres o dair neu bedair sesiwn awr neu, os oes llai o amser ar gael, sesiwn untro.
Cynlluniwyd y deunyddiau i annog trafodaeth a dadl. Ar gyfer myfyrwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt gyda’r gweithgareddau trafod, rydym wedi darparu cerdyn cymorth ychwanegol. Cerdyn cymorth ychwanegol
Gallwch lwytho i lawr y llyfryn athrawon a chardiau myfyrwyr neu archebu copi rhad ac am ddim drwy’r post.
Defnyddio’r wefan yn y dosbarth
Mae’r wefan hon yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol a deunyddiau rhyngweithiol neu glyweled i gyflenwi eich addysgu:
Ffilm gyflwyniadol – mae’r ffilm fer hon yn gosod y naws ar gyfer y deunyddiau ac yn rhoi cipolwg cyflym i fyfyrwyr ar roi yn ystod bywyd a/neu ar ôl marwolaeth yn beth pwysig a gwerth chweil i’w wneud.
Corff y Rhoddwr – mae’r corff yn cynnwys gwybodaeth ffeithiol am waed, mêr esgyrn, meinwe ac organau. Gellir ei ddefnyddio i gyflwyno’r pwnc i fyfyrwyr gydag ychydig o ddealltwriaeth o’r angen am y rhannau hyn o’u cyrff.
Sesiwn rhoi gwaed rithwir – mae’r cyflwyniad hwn yn egluro’r broses o roi gwaed.
Astudiaethau achos – gallwch lwytho nifer o astudiaethau achos i lawr am bobl sydd wedi elwa ar roddion gwaed, mêr esgyrn, meinwe neu organau.
