Adrian Turner
Roeddwn yn berffaith iach, roeddwn wedi ennill medal arian ym mhencampwriaethau cenedlaethol Prydain ac yna ychydig ddyddiau yn ddiweddarach roeddwn yn teimlo fel pe bai gennyf y ffliw. ac yna roeddwn i’n sâl iawn a dechreuais basio gwaed, sydd ddim yn hwyl o gwbl.
Chwaraewch y ffilm
Andrew Samuel
Dechreuais ar ddialysis yr arennau ychydig wythnosau ar ôl geni fy merch ac mae Hannah bellach yn naw.
Chwaraewch y ffilm
Babi Fizhan
Does yna neb erioed yn ein teulu ni i gyd wedi bod â chyflwr calon fel babi Fizhan. Penderfynwyd mai trawsblaniad calon oedd yr unig ddewis.
Chwaraewch y ffilm
Beth Morris
Pan ydych yn darganfod am yr eildro fod gen eich plentyn lewcemia, mae fel pe bai eich byd yn dod i ben. Fedrwch chi mo’i goelio. Mae fel cael eich taro gan drên.
Chwaraewch y ffilm
Brian Davies
Pe gallech ddychmygu rhywun yn taflu tywod i’ch llygad ac yna bod â hwnnw yno am 12-14 awr y dydd, yna fe gewch rywfaint o syniad am sut deimlad ydyw. Os na chaf drawsblaniad cornbilen yn fuan byddaf yn mynd yn ddall.
Chwaraewch y ffilm
Emma Adams
Mae’n cael ei alw yn hepatitis non-A/non-B. Does gennym ni ddim syniad sut mae pobl yn cael y cyflwr hwn ac rwy’n meddwl yn achos Emma, ei fod yn mynd i arwain at y ffaith y bydd arni angen trawsblaniad.
Chwaraewch y ffilm
James Baffoe
Enw’r cyflwr sydd gennyf yw anaemia crymangell. Diffyg ocsigen yn y celloedd gwaed coch yw hyn ac yn fy achos i, mae rhai ohonynt yn cwympo i siâp hanner lleuad, dyna o ble daw’r enw 'cryman'.
Chwaraewch y ffilm
Sally Brewis
Mae lewcemia yn ganser y gwaed a chynhyrchir eich gwaed yn mêr eich esgyrn. Doedd fy mêr esgyrn i ddim yn gallu cynhyrchu gwaed ar ei ben ei hun.
Chwaraewch y ffilm
Veronica Penn
Roedd gennyf anafiadau lluosog, a’r un mwyaf difrifol oedd fod asgwrn y pelfis wedi ei dorri rhyw bum gwaith ac roeddwn wedi rhwygo fy nueg ('spleen') dair gwaith felly cafodd ei dynnu.
Chwaraewch y ffilm