Give and let live

Storïau go iawn

realstories
Merch ifanc yn cael trawsblaniad y galon jyst mewn pryd

Merch ifanc yn cael trawsblaniad y galon jyst mewn pryd

Cafodd Sally Salter drawsblaniad y galon pan oedd yn 6 oed. Cyn hynny, roedd wedi ei tharo'n sâl gyda firws a gwaethygodd yn gyflym. Aeth ei mam Bridget â Sally i’r ysbyty ble cafodd ddiagnosis o fod yn dioddef gyda’r firws Coxsackie B sy’n debyg i ffurf bacteraidd llid yr ymennydd, ac roedd yn effeithio ar gyhyrau calon Sally.

Parhaodd iechyd Sally i ddirywio a dywedwyd wrth ei rhieni fod arni angen trawsblaniad calon. Penderfynwyd mynd yn gyhoeddus gydag apêl am roddwr calon gan geisio codi ymwybyddiaeth am sefyllfa Sally yn y gobaith y byddai mwy o bobl yn ystyried rhoi organ i’w helpu hi, a rhai eraill tebyg iddi hi. Roeddent bron wedi anobeithio ac yn paratoi i ddweud ffarwel olaf wrth eu merch pan ddaeth rhodd o organ ar gael.

Cymerodd y llawdriniaeth i roi calon newydd i Sally saith awr. Yn ystod yr amser hwnnw defnyddiwyd tua wyth peint o waed – sy’n cyfateb i 10 o roddion gwaed. Bu’r llawdriniaeth yn llwyddiannus, a bu Sally gartref yn gwella yng Ngogledd Swydd Efrog am ddim ond chwech wythnos cyn mynd yn ôl i’r ysgol.

Mae Sally bellach yn ferch ifanc iach a hapus.

panel