Give and let live

Storïau go iawn

realstories
Rhoddwr organau yn rhoi bywyd i lawer o bobl eraill

Rhoddwr organau yn rhoi bywyd i lawer o bobl eraill

Mae Phillip Traher bob amser wedi bod â diddordeb mewn rhaglenni meddygol ar y teledu, ac roedd yn gwybod bod ei rieni yn credu mewn rhoi organau.

Bu farw Philip mewn damwain traffig ar y ffordd pan yn ddim ond 13 oed. Roedd ei rieni, David ac Anthea, wedi torri eu calonnau, ond roeddent yn gwybod y byddai eu mab wedi bod eisiau rhoi ei organau i roi siawns o well ansawdd bywyd i rywun arall.

“Doedd Philip fyth yn cadw unrhyw beth nad oedd arno mo’i angen bellach, roedd bob amser yn rhoi ei bethau i rywun arall pan oedd wedi gorffen efo nhw,” meddai ei fam.

“Dyna reswm arall pam yr oeddem yn gwybod y byddai Philip yn dymuno rhoi ei organau.”

Daeth organau Philip â budd i chwech o bobl a defnyddiwyd ei gornbilennau hefyd i adfer golwg rhywun. Rhoddwyd ei galon i ddyn 57 oed, a 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae rhieni Philip yn dal i’w gyfarfod yn rheolaidd.

panel