
Roedd Olivia, 18 mis oed, yn blentyn hapus normal, a oedd wrth ei bodd yn chwarae gyda chi'r teulu a mynd i’r grŵp chwarae gyda’i mam Karen. Ond newidiodd bron dros nos.
“Fyddai hi ddim yn gadael fy ochr,” cofia Karen. “Roedd yn glynu wrthyf ac yn crio pe bawn yn trio ei rhoi hi i lawr, ac roedd hi bob amser yn ymddangos braidd yn sâl.”
Yn fuan dechreuodd trwyn Olivia waedu a datblygodd frech. Roedd mewn poen difrifol.
“O fewn dwy awr o weld y meddyg yn yr ysbyty,” meddai Karen “dywedwyd wrthym bod gan Olivia lewcemia lymphoblastig aciwt.”
Dros y ddwy flynedd nesaf, cafodd Olivia gemotherapi i drin ei chanser, a llawer o drallwysiadau gwaed i amnewid y celloedd gwaed coch a’r plateletau a ddinistriwyd gan y driniaeth.
Roedd popeth yn ymddangos fel pe bai’n mynd yn iawn hyd nes i Olivia ddechrau cloffi. Roedd y lewcemia yn ôl. Awgrymodd meddygon y dylai gael trawsblaniad mêr esgyrn. Cafodd y ddau riant eu profi i weld a allen nhw roi, ond nid oedd y gyfatebiaeth yn ddigon agos. Chwiliodd y meddygon y cofrestrau mêr esgyrn i ddod o hyd i roddwr. Buont yn lwcus: cymerodd ddau fis yn unig.
Meddai Karen, “Rydym mor ddiolchgar i’r rhoddwr mêr esgyrn y mae ei haelioni wedi caniatau i Olivia ddatblygu i fod y ferch ifanc hapus y mae hi heddiw.”