
Ganwyd Neil Robinson, 19 oed, gydag arennau diffygiol ac mae wedi bod ar ddialysis er pan oedd yn 2 oed. Mae'n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf, ac wedi bod yn disgwyl am drawsblaniad aren drwy ei oes ond yn y cyfamser mae’n rhaid iddo gael dialysis yn yr ysbyty dair gwaith yr wythnos.
Cafodd Neil drawsblaniad aflwyddiannus ym 1995 ac mae wedi cael ei roi ar restr frys i fod yn barod i dderbyn newydd wyth gwaith. “Mae gennyf antigenau sy’n gwneud darganfod rhoddwr sy'n cyfateb yn anodd. Un o’r pethau gwaethaf yw gwylio plant eraill yn bwyta llawer o fwyd na allaf i ei fwyta.”
Ond mae Neil yn un sy’n barod i frwydro ac nid yw’n gadael i’w gyflwr ei ddigalonni. Yn yr ysgol gweithiodd yn galed i ddal i fyny, ac er ei fod yn ffan mawr o chwaraeon, roedd yn rhaid iddo fod yn ofalus wrth chwarae pêl-droed neu hoci oherwydd bod ganddo diwb yn ochr ei frest i gysylltu â'r peiriant dialysis.
Mae Neil, sy'n gerddor talentog, ac yn canu’r chwistl dun, allweddellau, drymiau a llawer o offerynnau eraill. Yn 2004 recordiodd ei albwm ei hun o ganeuon a’i hysbrydolodd. Pasiodd ei brawf gyrru hefyd ac mae’n berchennog balch Renault Clio arian.
“Rwy’n credu yn Nuw ac yn credu bod gobaith i ni i gyd sy’n disgwyl am rodd bywyd. Rwy’n gwybod yn fy nghalon y gallai’r alwad nesaf fod yn un i mi. Yn y cyfamser, fe ddaliaf ati fel arfer.”