Give and let live

Storïau go iawn

realstories
Rhoddwr ifanc mêr esgyrn yn arbed bywyd

Rhoddwr ifanc mêr esgyrn yn arbed bywyd

Mae Hamzah Khaled, 20, wedi bod yn rhoddwr gwaed rheolaidd ers iddo weld cyflwyniad am hynny yn yr ysgol. Yn ei bedwaredd sesiwn rhoi gwaed, a gynhaliwyd yn ei ysgol, y penderfynodd ymuno â Chofrestrfa Mêr Esgyrn Prydain.

“Dywedodd staff yn y sesiwn wrthyf fel mae angen mwy o bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol i gynyddu’r siawns o gyfateb cleifion gyda rhoddwr,” meddai Hamzah.

O fewn mis, gofynnwyd i Hamzah – a oedd erbyn hyn ar leoliad yn ystod blwyddyn allan – i ddod yn un o roddwyr mêr esgyrn ieuengaf y wlad.

“Roeddwn yn synnu bod rhywun wedi cysylltu â mi, yn arbennig mor fuan. Penderfynais ei wneud oherwydd roeddwn yn gwybod y byddai’n ddim ond ychydig ddyddiau allan o’m bywyd i i arbed rhywun arall.”

Meddai Hamzah, a oedd yn falch o’r gwahaniaeth a wnaeth drwy achub bywyd, “Byddwn yn gwneud hynny eto, a byddwn yn annog mwy o bobl o gymunedau ethnig i gofrestru.”

panel