
Cafodd Awele Nwosu-Akeh 17, ddiagnosis o fod yn dioddef o anemia crymangell pan oedd yn 10 oed. Mae wedi bod yn yr ysbyty lawer gwaith ond mae’n benderfynol o beidio gadael i hynny effeithio ar ei bywyd, er gwaetha’r heriau amlwg.
“Gall bod yn berson ifanc gyda chrymangell fod yn anodd. Sefais fy arholiadau TGAU yn yr ysbyty ond fedrwn i ddim ysgrifennu fy hun felly roedd rhywun yn ysgrifennu drosof. Roedd yn galed ond rwy’n falch fy mod wedi gwneud yr arholiadau ac ennill y graddau angenrheidiol i astudio Cyfryngau B-Tech yn y coleg.”
Mae Awele yn gobeithio gorffen ei chwrs coleg yr haf nesaf fel y gall fynd i’r brifysgol. Oherwydd ei bod yn derbyn trallwysiadau gwaed yn rheolaidd, ac y gallai dreulio mwy o amser yn yr ysbyty os bydd yn mynd yn sâl, mae ei thiwtoriaid wedi rhoi amser ychwanegol iddi orffen y cwrs pe bai angen hynny.
“Rwy’n cael trallwysiad gwaed bob pedair wythnos i gadw lefelau fy haemoglobin yn iach. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl bobl sy’n rhoi o’u hamser i roi’r gwaed angenrheidiol i mi ddal yn fyw.”