Give and let live

Storïau go iawn

realstories
Mae derbyniwr cornbilennau mor falch o weld yn glir

Mae derbyniwr cornbilennau mor falch o weld yn glir

Roedd y peiriannydd Ambrose Field oedd wedi ymddeol, wedi rhyfeddu at y gwahaniaeth a wnaeth trawsblaniadau cornbilennau i’w fywyd.

"Roedd y trawsnewid yn rhyfeddol", meddai Ambrose, “Eisteddais yn yr ardd a gallwn nid yn unig weld y blodau yn fwy eglur, gallwn hyd yn oed gyfri'r petalau.”

Cafodd Ambrose, 85 oed, a hen daid i dri, ei drawsblaniad cornbilen cyntaf ym 1998 wedi iddo gael diagnosis o fod â chataractau a thraul ar y cornbilennau a oedd yn gwneud darllen yn hynod o anodd. Cafodd ail drawsblaniad cornbilen yn 2001.

"Ar ôl imi gael yr ail drawsblaniad dechreuais feddwl am y bobl oedd wedi rhoi’r rhodd hon i mi."

Ysgrifennodd Ambrose lythyrau o ddiolch i deuluoedd y rhoddwyr – y mae eu manylion yn parhau yn gwbl gyfrinachol – a gofynnodd i gydlynwyr y rhoddwyr drosglwyddo ei lythyrau ymlaen. Derbyniodd lythyr oddi wrth ferch yng nghyfraith ei roddwr cyntaf maes o law yn gofyn a allent gyfarfod, a dyna a fu.

“Rwy’n meddwl ei fod wedi bod yn beth gwych i’r teulu ei wneud” meddai Ambrose.

panel