Claf aren yn dal i frwydro wrth aros am drawsblaniad
Mae Mark Korad sy’n 37 oed yn ymladd brwydr feddyliol a chorfforol yn erbyn methiant yr arennau. Mae’n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf, felly mae wedi bod ar y gofrestr am drawsblaniad aren ers mis Rhagfyr 2003 ond yn y cyfamser mae’n rhaid iddo gael dialysis deirgwaith yr wythnos.
darllenwch mwy
Rhoddwr organ yn rhoi bywyd i sawl un arall
Bu diddordeb gan Philip Traher mewn rhaglenni teledu meddygol erioed, ac roedd yn gwybod bod ei rieni’n credu mewn rhoi organau.
darllenwch mwy
Rhoddwr mêr esgyrn yn ei arddegau yn achub bywyd
Bu Hamzah Khaled, 20, yn rhoi gwaed yn rheolaidd ers iddo weld cyflwyniad amdano yn yr ysgol. Yn ei bedwaredd sesiwn rhoi gwaed, a gynhaliwyd yn ei ysgol, penderfynodd ymuno â Chofrestrfa Mêr Esgyrn Prydain.
darllenwch mwy
Merch ifanc yn cael trawsblaniad calon ar y funud olaf
Cafodd Sally Slater drawsblaniad calon pan oedd ond yn chwe blwydd oed. Cyn hynny, bu’n sâl â firws ac roedd wedi gwaethygu’n gyflym. Aeth ei mam Bridget â Sally i’r ysbyty lle cafodd ddiagnosis o’r firws Coxsackie B sy’n debyg i ffurf facteriol llid yr ymennydd, ac roedd yn effeithio ar gyhyrau calon Sally.
darllenwch mwy
Rhoddion gwaed yn galluogi myfyriwr i fyw ei bywyd
Cafodd Awele Nwosu-Akeh, 17, ddiagnosis anemia cryman-gell pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Mae wedi bod yn yr ysbyty sawl gwaith ond mae’n benderfynol o beidio â gadael iddo effeithio ar ei bywyd, er gwaethaf yr heriau y mae’n eu cyflwyno.
darllenwch mwy
Rhodd mêr esgyrn yn achub baban
Roedd Olivia yn blentyn 18 mis oed normal, hapus a oedd wrth ei bodd yn chwarae gyda chi melyn y teulu ac yn mynd i’r cylch chwarae gyda’i mam Karen. Ond newidiodd dros nos bron.
darllenwch mwy
Mae rhoi meinwe yn golygu y gall mabolgampwr chwarae eto
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng byw, a charu byw?
darllenwch mwy
Mae derbynnydd y gornbilen mor ddiolchgar am gael gweld yn glir
Roedd Ambrose Field, sy’n beiriannydd wedi ymddeol, yn synnu cymaint o wahaniaeth a wnaeth trawsblaniadau cornbilen i’w fywyd.
“Roedd y trawsnewid yn anhygoel,” meddai Ambrose, “Eisteddais yn yr ardd ac yn ogystal â gweld y blodau’n gliriach, gallwn gyfri’r petalau hyd yn oed.”
darllenwch mwy