Give and let live

Cwisiau a Gemau

quizzesandgames

Llythyr safbwyntiau

Sut y credwch y byddai arweinydd grwp ffydd arbennig yn ateb y cwestiynau hyn? Dewiswch gwestiwn o blith y tri isod a dewiswch grefydd i'w chynrychioli. Yna ysgrifennwch lythyr i ateb y cwestiwn yn y blwch isod. Edrychwch ar y ffeil Ffeithiau isod a'r PowerPoint AG os oes arnoch angen mwy o wybodaeth.

Dewiswch gwestiwn:

Dalen gweithgareddC1. "Rydw i ar fin mynd i'r ysbyty am lawdriniaeth a bydd arnaf angen trallwysiad gwaed. A yw hi'n iawn i mi dderbyn hyn?"

Dalen gweithgareddC2. "Rwy'n meddwl am gario cerdyn rhoi organau, ond a yw hi'n iawn i mi gytuno i'm holl organau gael eu rhoi ar ôl fy marwolaeth?"

Dalen gweithgareddC3. "Mae ar fy ffrind angen trawsblaniad mêr esgyrn. A yw hi'n iawn i mi weld os wyf yn rhoddwr addas?"

Dewiswch grefydd:

Cerdyn Myfyriwr Ffeil Ffeithiau

Dewiswch un o'r grwpiau canlynol:

  • Mae Bwdhyddion yn dymuno lliniaru dioddefaint.
  • Trin y corff gyda pharch bob amser.
  • Dylid aflonyddu ar y corff dim ond am reswm priodol.
  • Mae rhai Bwdhyddion yn credu bod ymwybyddiaeth yn aros o fewn y corff am beth amser wedi i'r anadlu beidio.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Anogir Cristnogion i helpu eraill sydd mewn angen.
  • Mae llawer yn credu bod rhoi yn weithred Gristnogol o gariad ac yn ffordd o ddilyn esiampl Iesu Grist.
  • Gallai'r penderfyniad i roi ar ddiwedd bywyd ddechrau gwellhad i fywyd rhywun arall.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Nid oes unrhyw ddeddf yn atal Hindwiaid rhag rhoi eu horganau neu feinwe.
  • Mae cyfeiriadau mewn ysgrythurau Hindwaidd yn cefnogi'r syniad o roi organau.
  • Mae Hindwiaid yn credu mewn bywyd ar ôl marwoaleth a bod hon yn broses barhaus o aileni.
  • Mae Hindwiaid yn credu mewn amlosgi.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Nid oes gan Ddyneiddwyr unrhyw gredoau crefyddol.
  • Nid yw Dyneiddwyr yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
  • Mae llawer o Ddyneiddwyr yn credu bod ganddynt ddyletswydd foesol i roi eu horganau ar ôl marwolaeth os gallant helpu rhywun arall.
  • Ystyrir hyn fel penderfyniad unigolyn.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Mae Cyngor Cyfraith Fwslemaidd Prydain Fawr yn cefnogi rhoi organau a thrawsblaniad fel dull o liniaru poen neu arbed bywyd.
  • Ond mae rhai ysgolheigion Mwslemaidd, er hynny, yn credu na chaniateir rhoi organau.
  • Dylid claddu corff mor fuan â phosibl ar ôl marwolaeth.
  • Mae Mwslemiaid yn credu mai marwolaeth yw diwedd un bywyd a dechrau un arall.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Mae Iddewiaeth yn caniatau rhoi organau dim ond os bydd yn arbed bywydau.
  • Fel arfer mae gwrthwynebiadau cryf i ymyrryd â'r corff ar ôl marwolaeth a dylid ei gladdu fel ag y mae a chyn gynted â phosibl.
  • Ni ddylid symud unrhyw organ o roddwr hyd nes y bydd marwoaleth, fel y diffinnir hynny mewn deddf Iddewig, yn bendant wedi digwydd.
Cau'r ffeil ffeithiau
  • Nid oes gan Sikhiaid unrhyw wrthwynebiad i roi a thrawsblannu organau.
  • Mae Sikhiaid yn credu mai arbed bywyd yw un o'r pethau gorau y gall unrhyw un ei wneud.
  • Nid oes angen y corff ar gyfer bywyd ar ôl marwolaeth; yr enaid sy'n dragywydd.
Cau'r ffeil ffeithiau
panel