Give and let live
privacy
Home
Privacy

Polisi Preifatrwydd
Mae’r NHSBT, adain fusnes o’r NHSBT, yn ymroddedig i warchod preifatrwydd y wybodaeth a ddarperir gan ymwelwyr â gwefan blood.co.uk ("y Wefan"). Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd gwybodaeth bersonol y gellir ei hadnabod ynghylch unigolion sy’n ymweld â’r Wefan ("gwybodaeth bersonol") yn cael ei chasglu a’i defnyddio gan yr NHSBT. Mae cyfeiriadau yn y polisi preifatrwydd at "rydym", "ein" a "ni" yn cyfeirio at yr NHSBT tra bo "chi" ac "eich" yn cyfeirio at ymwelwyr â’r Wefan.

Yn ogystal, fe gewch fanylion ein hymrwymiad i ddiogelu cyfrinachedd data personol am ein rhoddwyr gwaed cofrestredig yn ein taflen "Data Protection - A guide for donors". I lwytho copi o’r daflen cliciwch yma.

Casglu gwybodaeth bersonol
Gallwch ddefnyddio’r Wefan heb ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, os ydych eisiau cysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ar lein, gofynnir i chi roi rhai manylion cysylltu, fel eich enw, e-bost, cyfeiriad postio a rhif ffôn. Ymysg pethau eraill, mae’r ffurflen ar lein yn fodd i chi gofrestru i roi gwaed, gofyn am ragor o wybodaeth neu wneud ymholiadau meddygol. Mewn rhai achosion, gallwch ychwanegu sylwadau neu ymholiadau a allai gynnwys gwybodaeth bersonol hefyd.

Gallwch wneud cais i dynnu gwybodaeth bersonol amdanoch oddi ar ein systemau unrhyw bryd trwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod neu trwy anfon e-bost at dpofficer@nbs.nhs.uk

Rydym yn defnyddio 'cwcis' ar y Wefan hefyd. Mae cwcis yn cofnodi manylion ar eich cyfrifiadur ynghylch y tudalennau gwe penodol rydych yn ymweld â nhw a’r gwasanaethau y byddwch yn eu defnyddio. Gallwch rwystro’r peiriant rhag defnyddio cwcis ond gall hyn gyfyngu ar y ffordd y bydd ein Gwefan yn gweithio neu eich mynediad i’r Wefan.

Ein defnydd o wybodaeth bersonol
Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir gennym trwy’r Wefan yn cael ei storio a’i defnyddio gennym ni fel sy’n briodol er mwyn gweinyddu eich cais i gofrestru i roi gwaed, er mwyn ymateb i ymholiadau penodol neu sylwadau a darparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â gweithgareddau’r NHSBT o ran rhoi gwaed.

Bydd unrhyw fanylion personol sensitif yn y sylwadau neu’r ymholiadau fydd yn cael eu hanfon gennych atom drwy’r Wefan, megis eich cred grefyddol, tarddiad hiliol neu ethnig, iechyd corfforol neu feddyliol neu’ch cyflwr neu’ch bywyd rhywiol, yn cael eu cadw a’u trin yn gyfrinachol gan yr NHSBT ac ni fyddant yn cael eu defnyddio ond ar gyfer ymateb i’r ymholiad neu’r sylw neilltuol. [Unwaith y byddwn wedi ymateb i’ch ymholiad neu’ch sylw, bydd eich data personol sensitif yn cael ei ddileu o’n cofnodion.]

Oni bai fod y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny, ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy’r Wefan i unrhyw berson ac eithrio yn unol â’r hyn a nodir uchod.

Hawliau mynediad
Dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 1998, mae gennych hawl i gael copi o unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym. I wneud cais am gopi, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod neu anfonwch e-bost at dpofficer@nbs.nhs.uk. Codir ffi am ddarparu gwybodaeth o’r fath.

Diogelwch
Mae mesurau diogelwch yn perthyn i’r Wefan a’n systemau cyfrifiadurol gyda’r nod o ddiogelu rhag colli, camddefnyddio neu newid gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw gennym.

Safleoedd Cyswllt
Gall y Wefan gynnwys cysylltau at safleoedd eraill ar y Rhyngrwyd sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ac nad ydynt yn dod dan y polisi preifatrwydd hwn. Nid ydym yn gyfrifol am ddata a ddarparwch drwy unrhyw wefannau cysylltiedig o’r fath.

Pwy i gysylltu â nhw
Anfonwch unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu wybodaeth bersonol sydd gennym at y cyfeiriad isod, neu trwy e-bost at dpofficer@nbs.nhs.uk.

Customer Services

NHSBT
Colindale Avenue
Colindale
London
NW9 5BG

panel