Give and let live
legals
Home
Legals

Hysbysiad Cyfreithiol

Cyffredinol
Mae’r wefan hon (ac eithrio safleoedd cysylltiedig) yn cael ei rheoli gan NHS Blood & Transplant (NHSBT). Gellir cael mynediad i’r wefan o amryfal wledydd eraill ledled y Byd. Gan fod deddfau’r gwahanol fannau hyn yn gallu bod yn wahanol i rai Cymru a Lloegr, trwy fynd i’r safle rydych chi a ninnau’n cytuno mai deddfau Lloegr fydd yn berthnasol i’r holl faterion a gyfyd yn sgil neu’n ymwneud â defnydd o’r safle hwn a’i gynnwys. Rydych hefyd yn cytuno a thrwy hyn yn ymostwng i awdurdodaeth anneilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr mewn perthynas â materion o’r fath.

Trwy sicrhau mynediad at y wefan hon a’i defnyddio mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys, heb gyfyngiad, pori’r wefan, defnyddio unrhyw wybodaeth, defnyddio unrhyw gynnwys, defnyddio unrhyw wasanaethau, mynd ati i lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau, rydych yn cytuno i’r Hysbysiadau Cyfreithiol hyn ac yn rhwymedig ganddynt. Os nad ydych yn derbyn yr Hysbysiadau Cyfreithiol hyn yn llawn, a wnewch chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon ar unwaith.

Hawlfraint
Hawlfraint © NHSBT 2007. Cedwir pob hawl. Mae’r holl hawlfreintiau a hawliau deallusol eraill ym mhob testun, delweddau, sain, meddalwedd a deunyddiau eraill ar y wefan hon yn eiddo i NHSBT neu ei gwmnïau cyswllt neu fe’u cynhwysir gyda chaniatâd y perchennog perthnasol. Mae cyfeiriadau at gysylltiedigion neu gwmnïau cyswllt yn cynnwys holl aelodau’r NHSBT. Caniateir i chi bori’r safle hwn ac atgynhyrchu darnau trwy argraffu, eu llwytho i lawr i ddisg galed, a thrwy eu dosbarthu i bobl eraill, ond ym mhob achos er dibenion gwybodaeth yn unig ac er defnydd personol anfasnachol, ac ar yr amod bod yr hysbysiad hawlfraint uchod ac unrhyw nodau masnach neu hysbysiadau perchnogol eraill yr NHSBT neu ei gwmnïau cyswllt yn ymddangos ym mhob atgynhyrchiad o’r fath. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r safle i’w werthu na’i ddosbarthu er elw masnachol ac ni cheir addasu nac ymgorffori unrhyw ran mewn unrhyw waith neu gyhoeddiad arall, boed ar ffurf copi caled neu mewn fformat electronig, gan gynnwys ei bostio i unrhyw safle arall. Ni chaniateir unrhyw drwydded na hawl arall.

Nodau masnach
Mae’r holl nodau masnach a ddangosir ar y wefan hon naill ai’n eiddo neu’n cael eu defnyddio dan drwydded gan yr NHSBT a’i gwmnïau cyswllt. Heb gyfyngiad, mae’r rhain yn cynnwys enwau brand a’r logos. Mae gwaharddiad pendant ar ddefnyddio unrhyw nod masnach ar y wefan hon heb awdurdod.

Cyflenwadau Cynhyrchion
Nid yw cyfeiriad at gynnyrch neu wasanaeth ar y safle yn gyfystyr â chynnig i werthu neu ddarparu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth hwnnw.

Defnyddio
Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio’r safle hwn mewn modd sy’n tarfu, yn ymyrryd nac yn cyfyngu ar ddefnydd o’r safle hwn gan ddefnyddwyr eraill. Yn neilltuol, ni chewch wrthdroi peirianneg, dadgrynhoi, copïo nac addasu unrhyw feddalwedd neu gôd arall neu sgriptiau sy’n llunio rhan o’r wefan hon na cheisio trosglwyddo i, neu drwy gyfrwng, y safle hwn unrhyw wybodaeth sy’n cynnwys firws, mwydyn, ceffyl trojan, neu gydran arall aflonyddgar. Ni chewch newid, addasu, dileu, ymyrryd â data na chamddefnyddio data a gynhwysir ar y safle hwn wedi’i gyflwyno gan unrhyw un arall sy’n defnyddio’r safle hwn neu’n ymwneud ag unrhyw un o’r fath.

Os byddwch yn rhoi, llwytho neu’n trawsyrru unrhyw wybodaeth i’r safle hwn neu drwy’r safle hwn byddwch yn sicrhau bod y manylion a roddwch yn gywir ac yn cael eu diweddaru. Rydych yn cytuno i sicrhau nad yw’r manylion a fydd yn cael eu llwytho, eu harddangos neu eu trawsyrru gennych chi i’r safle hwn, ar y safle hwn neu drwyddo yn rhai ffug, ymosodol, difenwol, bygythiol, anllad neu anghyfreithlon ac nad ydynt yn torri neu’n troseddu yn erbyn hawliau unrhyw berson yn unrhyw le yn y byd.

Cynnwys
Cafodd y wybodaeth ar y safle hwn ei chynnwys yn ddidwyll ond gwybodaeth er defnydd cyffredinol yn unig ydyw ac fe’i darperir ar sail "fel ag y mae" ac "yn ôl yr hyn sydd ar gael". Ni ddylid dibynnu arni er unrhyw ddiben penodol ac ni roddir gosodiad na gwarant o ran ei chywirdeb, pa mor gyflawn ydyw na’i haddasrwydd ar gyfer diben neilltuol. I’r graddau mwyaf cyflawn a ganiateir dan y gyfraith, ni fydd naill ai’r NHSBT nac unrhyw rai o’i gwmnïau cyswllt na swyddogion, gweithwyr ac asiantau yr NHSBT nac unrhyw rai o’i gwmnïau cyswllt yn atebol am unrhyw golled, niwed neu gost a gyfyd trwy unrhyw fynediad at, defnydd neu ddibynnu ar y safle hwn neu unrhyw safle â chyswllt ag ef gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw golli elw, colled anuniongyrchol, damweiniol neu ôl-ddilynol. Rydym yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau a chywiriadau i’r safle hwn, gan gynnwys i unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau sy’n cael eu marchnata, eu cynnig neu eu gwerthu trwy’r safle hwn, yn ôl y galw pan fyddwn yn ystyried hynny’n briodol a heb rybudd.

Safleoedd Cysylltiedig
Ar amryfal bwyntiau ledled y safle, mae’n bosib y cewch gynnig cysylltau awtomatig at safleoedd Rhyngwyd eraill a fydd yn berthnasol i agwedd neilltuol ar y safle hwn. Nid yw hyn yn arwydd bod yr NHSBT o anghenraid yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r safleoedd eraill hyn na’u perchnogion. Er ei bod yn fwriad gan yr NHSBT y bydd y safleoedd eraill hyn o ddiddordeb i chi, ni fydd yr NHSBT, ei gwmnïau cyswllt, na swyddogion, gweithwyr ac asiantau yr NHSBT nac unrhyw rai o’i gwmnïau cyswllt yn gyfrifol nac yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl am y safleoedd eraill hyn nac unrhyw wybodaeth fydd ynddynt, ac ni fydd dim ohoni wedi’i gwirio na’i chadarnhau gan yr NHSBT na’i gwmnïau cyswllt. Os byddwch ar unrhyw adeg yn canfod eich bod wedi sicrhau mynediad i safle arall gallwch ddychwelyd at y safle hwn trwy glicio ar y saeth "yn ôl", neu trwy deipio cyfeiriad y safle hwn ym mar cyfeiriad eich porwr.

Diogelu cyfrinachedd eich data
Mae’r NHSBT yn ymroi i ddiogelu eich data personol. Trwy anfon unrhyw fanylion atom ar lein rydych yn cydsynio i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol ("Gwybodaeth Bersonol") yn unol â’n polisi preifatrwydd. I gael mynediad at y polisi preifatrwydd cliciwch yma. Os ydych eisiau gwybod mwy am ein hymrwymiad i ddiogelu cyfrinachedd eich data, gofynnwch am ein taflen "Diogelu Data - Canllaw i roddwyr". Neu i lawrlwytho copi o’r daflen cliciwch yma.

Gwybodaeth arall y gallwn ei chasglu
Mae’n bosib i chi glywed am "cwcis," sef ffeiliau neu ddarnau o wybodaeth sy’n cael eu storio gan eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Gall yr NHSBT ddefnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amdanoch a gwybod pwy ydych pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, er enghraifft y rhannau penodol o’r safle y byddwch yn ymweld â nhw a’r gwasanaethau a ddefnyddiwch trwy ein gwefan. Byddwn yn casglu gwybodaeth o’r fath er mwyn teilwra ein safle yn well ar gyfer eich diddordebau a’ch anghenion. Hefyd gellir defnyddio cwcis i gyflymu eich gweithgareddau yn ein safle yn y dyfodol. Er enghraifft, gall safle adnabod eich bod wedi rhoi Gwybodaeth Bersonol i ni a pheidio â gofyn am yr un wybodaeth drachefn. Mae’r rhan fwyaf o borwyr wedi’u gosod i dderbyn cwcis ar y dechrau. Os byddai’n well gennych, gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis neu i roi gwybod i chi pan fydd cwcis yn cael eu hanfon. Trwy wrthod cwcis ar safle yr ydych yn ymweld ag ef mae’n bosib na fydd modd i chi fynd i rai rhannau o’r safle neu na fydd modd derbyn gwybodaeth wedi’i phersonoli pan fyddwch yn ymweld â’r safle. Am ragor o wybodaeth ynghylch "cwcis" edrychwch yn adran Help eich porwr.

Yn ogystal, rydym drwy’r amser yn ceisio gwella’r ffordd rydym yn hyrwyddo ein gwefan. I’n helpu i wneud hyn, mae’n bosib y byddwn yn mesur pa mor effeithiol yw ein presenoldeb ar y we trwy ddarganfod pryd y byddwch yn clicio er mwyn mynd ar ein gwefan. Gellir defnyddio ystadegau mesur safle i bersonoli eich profiad ar y wefan, yn ogystal ag er mwyn gwerthuso – yn ddienw ac ar y cyd – ystadegau ynghylch y defnydd o’r wefan. Hefyd gellir casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, fel eich cyfeiriad IP (rhif a roddir i’ch cyfrifiadur pryd bynnag y byddwch yn syrffio’r Rhyngrwyd), y math o borwr Rhyngrwyd rydych yn ei ddefnyddio a’r math o system weithredu rydych yn ei defnyddio, a chysylltu hyn â’ch Gwybodaeth Bersonol. Pwrpas hyn yw sicrhau bod ein gwefan yn rhoi’r profiad gwe gorau i ymwelwyr, a’u bod yn adnoddau gwybodaeth effeithiol.

Mae’n bosib y bydd rhai o’r tudalennau y byddwch yn ymweld â nhw yn casglu gwybodaeth hefyd trwy ddefnyddio tagiau picsel (gelwir hefyd yn clear gifs) y gellir eu rhannu â thrydydd partïon, sy’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i weithgareddau hyrwyddo NHSBT a datblygiad y wefan. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd gwybodaeth am ddefnydd o’r wefan yn cael ei rhannu gyda’n hasiantaeth hysbysebu trydydd parti ynghylch ymwelwyr sy’n ymweld â’n gwefannau er mwyn gwella’r modd rydym yn targedu baneri hysbysebu ar y Rhyngrwyd ar wefannau NHSBT. Nid oes modd eich adnabod yn unigol drwy’r wybodaeth a gesglir drwy’r tagiau picsel hyn, fodd bynnag, er y gellid ei chysylltu â’ch Gwybodaeth Bersonol.
Yn olaf, gallwn ychwanegu at y wybodaeth a ddarparwch, gyda gwybodaeth sydd gennym neu a dderbyniwn gan drydydd partïon. Byddwn yn gwneud hyn er dibenion marchnata er mwyn darparu cynhyrchion wedi’u targedu’n well a gwasanaeth sy’n bodloni eich anghenion.

Diogelu gwybodaeth
Byddwn yn cymryd rhagofalon rhesymol i gadw eich Gwybodaeth Bersonol yn ddiogel. Mae’r holl wybodaeth lle gellir adnabod pobl yn bersonol yn ddarostyngedig i fynediad cyfyngedig er mwyn atal mynediad heb awdurdod, addasu neu gamddefnyddio.

Pwy i gysylltu â nhw
Gallwch wneud cais am fynediad at Wybodaeth Bersonol sydd gennym trwy ysgrifennu atom yn

Customer Services
NHSBT
Colindale Avenue
Colindale
London
NW9 5BG
Neu i anfon eich cais atom trwy e-bost, cliciwch dpofficer@nbs.nhs.uk

panel