Give and let live

Ffeithiau am roi organau

donation

Y ffeithiau am feinwe

Y meinwe yn eich corff

Mae meinwe’r corff yn cynnwys croen, asgwrn, falfiau’r galon, cornbilennau, tendon a chartilag.

I beth y defnyddir meinwe wedi ei roi?

Caiff rhannau o’r corff fel croen, asgwrn a falfiau’r galon eu rhoi i wella neu arbed bywyd rhywun.

Defnyddir esgyrn, tendonau a chartilag i ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawfeddygaeth i gael cymal newydd. Gall trawsblaniad asgwrn a roddir i gleifion sy’n dioddef o ganser yr esgyrn olygu nad oes raid iddynt gael cymal wedi ei dorri ymaith.

Mae trawsblaniadau’r cornbilen yn helpu pobl sy’n dioddef o glefyd neu niwed difrifol i’r llygaid.

Gellir defnyddio falfiau’r galon i arbed bywydau pobl sydd wedi eu geni gyda chalonnau wedi eu camffurfio neu sydd â falfiau sy'n dioddef o glefyd neu wedi eu niweidio.

Defnyddir impiadau’r croen fel gorchuddion i drin pobl gyda llosgiadau difrifol.

Pryd y gallaf roi meinwe?

Gellir rhoi asgwrn yn ystod oes (fel rhan o amnewid clun), ond rhoddir y rhan fwyaf o feinweoedd ar ôl marwolaeth gan bobl sydd wedi penderfynu yr hoffent roi cyfle i bobl eraill ddal ymlaen i fyw.

Mae angen i’r rhan fwyaf o feinwe gael ei roi o fewn 24 awr o farwolaeth. Gall y rhan fwyaf o feinwe gael ei brosesu i’w wneud yn ddiogel i’w drawsblannu, a’i storio hyd nes bo ei angen yn ddiweddarach.

Sut y gallaf ddod yn rhoddwr meinwe?

Mae angen i chi gofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i ddod yn rhoddwr meinwe. A chofiwch drafod eich dymuniadau gyda’ch teulu.

Os oes rhywun yn cael clun newydd mewn ysbyty sy’n cynnal rhaglen rhoi esgyrn byw, gallent roi asgwrn ar ôl eu llawdriniaeth.

Hoffech chi wybod mwy?

panel