
Yr organau yn eich corff
Gellir trawsblannu'r arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a’r coluddyn bach.
I beth y defnyddir organau sy’n cael eu rhoi?
Mae angen trawsblaniad organ ar ddeng mil o bobl yn y DU, ond yn anffodus, dim ond 3,000 o bobl y flwyddyn sy’n cael un. Mae mil yn marw tra’u bod yn aros am un.
Mae ar y rhan fwyaf o bobl sy’n aros am drawsblaniad organ angen aren, oherwydd amrywiaeth o salwch difrifol. Er nad yw methiant yr arennau fel arfer yn fygythiad i fywyd, mae’n dod â llawer o broblemau a symptomau yn ei sgîl, ac yn effeithio ar ansawdd bywyd y claf a'r rhai o’u hamgylch.
I bobl sydd angen math arall o drawsblaniad organ, fel y galon, yr iau neu’r ysgyfaint, mae’n debyg mai dyma eu gobaith olaf a heb drawsblaniad maent yn debygol o farw.
Sut y gallaf roi organ?
Rhoddir y rhan fwyaf o organau ar ôl marwolaeth. Os ydych ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG, mae’n ei gwneud yn haws i staff meddygol ganfod eich dymuniadau a’u trafod gyda’ch perthnasau.
Mae’n bosib rhoi aren yn ystod bywyd. Mae rhoddwyr yn aml yn berthnasau agos i’r claf ac mae’n rhaid i’w grŵp gwaed a’u math o feinwe (a adwaenir fel yr 'Human Leukocyte Antigen' neu HLA) fod yn gydnaws.
Pryd y gallaf gofrestru i roi organ?
Mae cofrestru i ddod yn rhoddwr yn benderfyniad personol. Gallwch ymuno yn unrhyw oed, ond hyd nes byddwch yn 18 (16 yn yr Alban), byddai angen i’ch rhieni gytuno i’ch dymuniadau gael eu cyflawni pe baech yn marw, felly mae’n wirioneddol bwysig trafod hyn gyda nhw.
Hoffech chi wybod mwy?
