

Felly beth mae rhoi yn ei olygu?
Defnyddir gwaed, organau, meinwe a mêr esgryn i helpu pobl o bob oed a allai fod yn sâl, wedi eu hanafu neu sydd angen llawdrinaeth.
O ble y daw i gyd?
Daw rhoddion oddi wrth wirfoddolwyr – pobl fel chi sy’n deall pwysigrwydd ac sy’n gwybod teimlad mor dda yw helpu rhywun arall, heb ofyn am unrhyw dâl na gwobr.
Edrychwch ar y corff rhyngweithiol i ddarganfod pa rannau o’ch corff y gellir eu defnyddio i helpu i arbed bywydau pobl eraill – yn ystod eich bywyd chi ac ar ôl eich marwolaeth. Efallai y cewch eich synnu gan yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod.
Os hoffwch gael y ffeithiau i gyd, gweler yr adrannau ar gwaed, organau, meinwe a mêr esgyrn.
All unrhyw un roi?
Mae croeso i bawb ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG o unrhyw oed. A gall y rhan fwyaf o bobl dros 17 oed roi gwaed a mêr esgyrn.
Darganfyddwch pam ei bod yn hanfodol cael rhoddion gan bobl o bob cefndir ethnig.
Darganfyddwch fwy am y gefnogaeth y mae holl grefyddau mawr y DU yn ei roi.
