Give and let live

Ffeithiau am roi

donation

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ychydig o’r cwestiynau a ofynnir i ni yn aml am roi. Os oes gennych gwestiwn arall cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’w ateb.

Cliciwch ar y pwnc y mae gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy amdano.

Rhoi gwaed
Rhoi Organ
Rhoi Meinwe
Rhoi Mêr Esgyrn

 

Rhoi gwaed

A ofynnir llawer o gwestiynau i mi cyn i mi roi gwaed?
Gwneir, gofynnir nifer o gwestiynau i chi, sy’n bwysig i ofalu na fydd rhoi gwaed yn effeithio ar eich iechyd mewn unrhyw fodd a bod eich gwaed yn ddiogel i gleifion. Gofynnir i chi am bethau fel cyflyrau meddygol, oherwydd gall annwyd hyd yn oed effeithio ar eich addasrwydd, er mai dros dro yn unig mae hyn fel arfer.

Darganfyddwch fwy yn y Sesiwn rithwir rhoi gwaed.

Alla' i ddod â ffrind i’r sesiwn rhoi gwaed?
Gallwch, mae’n iawn dod â ffrind i roi cefnogaeth i chi. Gallech hyd yn oed roi gyda’ch gilydd. Darganfyddwch ble i roi drwy ymweld â’r Map rhoddwyr.

Beth alla' i ei wneud cyn ac ar ôl rhoi gwaed? Cyn ac ar ôl rhoi gwaed dylech yfed llawer o hylif a bwyta fel arfer.

Pa mor aml y gallaf roi gwaed?
Gallwch roi gwaed bob 16 wythnos (bob rhyw bedwar mis).

 

Rhoi Organ

Sut y gallaf gofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG?

Gallwch gofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG ar-lein neu ffoniwch y Llinell Rhoddwyr Organau unrhyw bryd ar 0300 123 23 23. Efallai hefyd y gwelwch daflenni yn eich meddygfa, neu gallwch dicio blwch pan ymgeisiwch am eich trwydded yrru dros dro.

A oes angen i mi ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG os oes gennyf Gerdyn Rhoddwr?
Oes, dylech ymuno a’r gofrestr hyd yn oed os oes gennych gerdyn rhoddwr. Mae hyn oherwydd y gall cardiau rhoddwyr fynd ar goll neu gael eu difrodi ac efallai na fyddwch bob amser yn ei gario gyda chi. Mae ymuno â’r gofrestr yn ffordd fwy diogel o fynegi eich dymuniadau, ond gallwch ddal i gario’r cerdyn os dymunwch. Siaradwch â’ch teulu am eich dymuniadau oherwydd gofynnid iddyn nhw gan staff meddygol gadarnhau beth y dymunwch iddo ddigwydd ar ôl eich marwolaeth.

Fydd y meddygon yn gadael i chi farw yn gynt os ydynt yn gwybod eich bod am fod yn rhoddwr?
Na fyddant. Bydd meddygon bob amser yn gwneud pob ymdrech bosibl i arbed bywyd y claf oherwydd dyna eu dyletswydd cyntaf. Dim ond os yw’r claf yn marw er gwaethaf eu hymdrechion gorau y byddai tîm o arbenigwyr trawsblannu yn cael eu galw i mewn i ystyried rhoi organau.

Sut maent yn gwybod eich bod yn wirioneddol farw?
Mae gweithdrefnau clinigol sefydledig i gadarnhau pan fo rhywun wedi marw. Nid yw organau fyth yn cael eu symud hyd nes bo hyn wedi digwydd ac mae’r broses yn cael ei thrin gan dîm cwbl ar wahân o feddygon a nyrsys.

 

Rhoi Meinwe

Pwy all roi meinwe?
Gellir ystyried y rhan fwyaf o bobl i roi meinwe ar ôl marwolaeth. Adolygir hanes meddygol ac ymddygiadol y rhoddwr i sicrhau na fydd meinwe wedi ei roi yn heintio’r claf. Cymerir sampl gwaed hefyd ac fe’i profir am firysau fel HIV a hepatitis. Mae’n bwysig trafod eich dymuniadau gyda’ch teulu fel y gallant gadarnhau eich dymuniadau wrth y staff meddygol ar ôl eich marwolaeth.

 

Rhoi mêr esgyrn

Beth sy’n digwydd os ymunwch â chofrestrfa mêr esgyrn?
Pan ymunwch â chofrestrfa anfonir llythyr i gadarnhau y derbyniwyd eich sampl gwaed. Pan ydych wedi eich cymeradwyo i fod yn rhoddwr mêr esgyrn rhoddir eich manylion a’ch math o feinwe ar gofrestr gyfrinachol.

Beth sy’n digwydd os canfyddir cyfatebiaeth bosibl o ran rhoddwr?
Os canfyddir rhoddwr posibl i glaf, gofynnir i’r rhoddwr roi sampl gwaed arall er mwyn cael gwybodaeth fanylach am y math o feinwe. Mae siawns o un o bob deg y bydd y rhoddwr posibl yn cyfateb i’r claf yn ystod y cam hwn.

Beth sy’n digwydd os yw’r rhoddwr a’r claf yn cyfateb?
Gwahoddir y rhoddwr i drafod beth mae hyn yn ei olygu gyda’r staff clinigol. Byddant yn cael archwiliad meddygol a phrofion gwaed cyn i’r mêr esgyrn gael ei roi. Bydd hyn naill ai drwy roi'r mêr esgyrn ei hun yn ystod gweithdrefn syml yn yr ysbyty neu drwy roi celloedd bonyn o’r gwaed sy’n cylchredeg gan ddefnyddio peiriant gwahanu celloedd.

panel