
Pam fod cefndir ethnig yn bwysig wrth roi?
Mae ein cenedligrwydd yn cael dylanwad ar gyfansoddiad ein math o 'Human Leukocyte Antigen' (HLA) a’n grŵp gwaed. Mae hyn yn golygu bod cleifion o’r un cefndir ethnig yn fwy tebygol o fod yn gyfatebiaeth agos pan ddaw’n fater o ddod o hyd i roddwr addas.
Angen brys am roddwyr
Mae ein cefndir ethnig hefyd yn cael dylanwad ar y clefydau rydym yn debygol o’u cael. Er enghraifft, mae pobl dduon yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel. Gall y clefydau hyn achosi methiant yr arennau ac mae’n bosib y bydd ar gleifion angen trawsblaniad aren. Oherwydd bod cyfatebiaeth lwyddiannus yn fwy tebygol o gael ei ganfod o’r un grŵp ethnig mae angen brys am fwy o roddwyr duon, yn arbennig oherwydd bod cyfraddau rhoi yn gymharol isel ymhlith y gymuned ddu.
Ar gyfer trawsblaniadau mêr esgyrn llwyddiannus mae’n hanfodol dod o hyd i roddwyr y mae eu math o feinwe yn cyfateb yn union i’r claf i osgoi cael ei wrthod. Felly mae’n hanfodol fod pobl o bob cefndir ethnig gwahanol yn ymuno â chofrestrfa mêr esgyrn hefyd. Hebddynt, bydd cleifion yn parhau i farw yn disgwyl am gyfatebiaeth addas.
Hoffech chi wybod mwy?
