
Mêr esgyrn yn eich corff
Mêr esgyrn yw’r meinwe meddal tebyg i jeli a ganfyddir yng nghanol gwag rhai esgyrn. Mae mêr yr esgyrn yn cynnwys celloedd bonyn sy’n gwneud gwaed.
I beth y defnyddir rhodd mêr esgyrn?
Gall rhoddion mêr esgyrn ddarparu’r celloedd bonyn y mae arnom i gyd eu hangen i fyw. Gall mêr esgyrn gael ei ddifa yn ystod triniaeth ar gyfer lewcemia neu ganser sy'n gysylltiedig â gwaed, neu efallai na fydd yn gweithio’n gywir gan arwain at ffurfiau o anaemia sy’n fygythiad i fywyd. Oherwydd bod angen mêr esgyrn i wneud gwaed, os yw mêr esgyrn rhywun wedi ei amharu, bydd arnynt angen trawsblaniad celloedd bonyn i oroesi.
Sut y gallaf roi mêr esgyrn?
Cyn gynted ag yr ydych ar gofrestr mêr esgyrn, gellir gofyn i chi roi celloedd bonyn os ydych yn gyfatebiaeth dda i rywun sydd eu hangen. Mae rhoi celloedd bonyn yn golygu llawdriniaeth fechan i dynnu mêr esgyrn gan ddefnyddio peiriant gwahanu celloedd ar waed sy’n cylchdroi i gael y celloedd bonyn sy’n arbed bywyd.
Pryd y gallaf roi mêr esgyrn?
I ymuno â chofrestfra mêr esgyrn mae angen i chi fod dros 18 oed a naill ai’n barod i roi gwaed neu fynychu clinig i gael sampl gwaed wedi ei gymryd.
Hoffech chi wybod mwy?
