
Y gwaed yn eich corff
Mae gan eich corff tua 4-6 litr (8.5 - 12.5 peint) o waed, sy'n cynnwys celloedd gwaed coch, celloedd gwaed gwyn a phlatennau, mewn hylif a elwir yn blasma.
Ceir pedwar o brif grwpiau gwaed A, B, AB ac O. Gall pob un o'r rhain fod yn bositif neu yn negatif, felly mae wyth o wahanol amrywiadau o waed i gyd.
Mae mathau o waed yn adweithio’n wahanol i’w gilydd, felly mae rhai yn anghydnaws ag eraill. Gellir rhoi O negatif yn ddiogel i unrhyw un. Mae rhai grwpiau gwaed yn fwy cyffredin ymysg rhai cymunedau ethnig, felly mae angen rhoddion gan bobl o bob cefndir.
I beth y defnyddir gwaed sy’n cael ei roi?
Mae ar ysbytai a meddygon angen gwaed wedi ei roi i drin llawer math o salwch gwahanol, ac fe’i defnyddir hefyd yn y rhan fwyaf o lawdriniaethau llawfeddygol. Ar y rhan fwyaf o ddyddiau, mae llai na wythnos o gyflenwad gwaed ym manciau gwaed y DU.
Sut y gallaf roi gwaed?
Mae’n syml, chwiliwch am eich lleoliad agosaf a bydd nyrs yn mynd â chi drwy’r sesiwn. Gwyliwch y sesiwn rithwir rhoi gwaed i ganfod beth yn union sy’n digwydd.
Pryd y gallaf roi gwaed?
Gallwch ddechrau rhoi gwaed pan ydych yn 17 oed. Cyn belled ag y boch yn ffit ac yn iach yn gyffredinol ac yn pwyso dros 50 cilogram (7 stôn 12 pwys) fe ddylech allu rhoi. Os nad ydych yn 17 eto, pam na wnewch addo rhoi gwaed pan ydych?
Hoffech chi wybod mwy?
