



Felly sut beth yn union yw bod yn rhoddwr?
Defnyddir gwaed, organau, meinweoedd a mêr esgyrn i helpu pobl o bob oedran sydd efallai’n sâl, wedi’u hanafu, neu y mae angen llawdriniaeth arnynt.
O ble y daw’r cyfan?
Daw rhoddion oddi wrth wirfoddolwyr – pobl yn union fel chi sy’n deall y pwysigrwydd ac yn deall cystal teimlad yw helpu rhywun arall, heb ofyn am unrhyw daliad na gwobr.
Ewch i weld y corff rhyngweithiol i ganfod pa rannau o’ch corff y gellir eu defnyddio i helpu achub bywydau pobl eraill – yn ystod eich oes ac ar ôl ichi farw. Efallai y bydd yr hyn a ddysgwch yn eich synnu.
Os hoffech gael y ffeithiau i gyd, ewch i’r adrannau am waed, organau, meinwe a mêr esgyrn.
Ydy unrhyw un yn gallu bod yn rhoddwr?
Mae croeso i bawb ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, ni waeth beth yw eu hoedran. Hefyd, gall y rhan fwyaf o bobl dros 17 roi gwaed a mêr esgyrn.
Canfyddwch pam y mae’n hanfodol cael rhoddion gan bobl o bob cefndir ethnig.
Canfyddwch fwy am y gefnogaeth y mae holl brif grefyddau’r DU yn ei rhoi i roi organau.
