
Mae ysbytai’r DU yn defnyddio dros 2 miliwn o roddion gwaed bob blwyddyn. Ond wyddech chi mai dim ond 5% o bobl a allai roi gwaed sydd yn gwneud hynny? Efallai nad ydych yn ddigon hen, ond peidiwch â gadael i hynny eich atal!
Drwy wneud yr addewid rydych yn dangos bod gennych ddiddordeb mewn rhoi gwaed pan ydych yn 17 (gallwch bob amser newid eich meddwl yn ddiweddarach os dymunwch.) Byddwn yn anfon e-bost atoch ar eich pen-blwydd yn 17 oed i’ch atgoffa eich bod yn dymuno dod yn rhoddwr gwaed a sut i fynd ati i helpu i arbed bywydau. Gwnewch eich addewid yn awr drwy lenwi’r ffurflen. Wrth gwrs os ydych yn 17 yn barod gallwch ddarganfod am roi yn awr.
