Give and let live
accessibility
Home
accessibility

Mae Give and Let Live yn ceisio bod yn ymgyrch sy’n deall anghenion a dyheadau pobl ag anableddau a bydd yn sicrhau na cheir unrhyw wahaniaethu ar sail anabledd ynghylch aelodau’r cyhoedd a wasanaethwn. Mae Give and Let Live wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bawb, a’i nod yw rhoi mynediad i bobl ag anableddau.

Mae Give and Let Live wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn hygyrch i bob elfen o’r gymuned a bydd yn ymdrechu i ddarparu cyfleusterau a chymorth priodol i bobl ag anableddau er mwyn iddynt gael ein safonau gwasanaeth uchaf.

Cydymffurfio â Safonau
Datblygwyd y wefan hon gyda’r bwriad o’i gwneud yn hygyrch i gynifer o ymwelwyr â phosibl. Rydym wedi cyflawni hyn drwy gadw at ganllawiau W3C a sicrhau bod y safle wedi’i strwythuro mewn modd rhesymegol.

Llwytho ffeiliau
Mae pob ffeil sydd ar gael i’w llwytho i lawr drwy’r wefan hon wedi cael ei thrawsnewid i’r Fformat Dogfen Cludadwy (PDF). Gellir gweld y ffeiliau hyn gan ddefnyddio Adobe Acrobat Reader, sef adnodd rhad ac am ddim sydd ar gael o wefan Adobe.

Mae cynnwys fideo sy’n rhan o safle Give & Let Live ar gael ag is-deitlau. Mae’r fideos ar gael hefyd i’w llwytho i lawr yn fformat Windows Media Video (WMV) i’w chwarae all-lein.

Taflenni Arddull Rhaeadrol
Rydym wedi defnyddio Taflenni Arddull Rhaeadrol (CSS) i reoli cynllun gweledol y safle. Os nad yw eich porwr yn cefnogi CSS neu’r safle neu os dewiswch ddiystyru ein taflen arddull â gosodiadau porwr, gellir darllen/defnyddio’r safle beth bynnag.

Defnyddiwn feintiau ffont perthynol sy’n golygu y gallwch hefyd ddiystyru’r meintiau testun diofyn a gosod eich rhai eich hunain drwy’r porwr.

Yn Internet Explorer
Dewiswch ddewislen View, yna Text Size, yna gosodiad o’r rhestr pum maint.

Yn FireFox
Dewiswch ddewislen View, yna Text Size, yna naill ai Increase neu Decrease o’r ddewislen.

Yn Safari
Dewiswch ddewislen View, yna naill ai Make Text Bigger neu Make Text Smaller.

Ym mhob porwr
Drwy ddal y botwm CTRL i lawr a sgrolio olwyn y llygoden i fyny ac i lawr, byddwch yn chwyddo maint y safle cyfan i fyny neu i lawr yn briodol.

Delweddau
Mae pob delwedd yn cynnwys priodoledd "ALT".

Gwe-lywio
Mae prif rannau’r safle ar gael bob amser drwy’r brif ddewislen we-lywio sy’n rhedeg ar hyd brig y dudalen. Gellir gweld cynnwys y rhannau hyn drwy’r bar gwe-lywio ochr, sy’n defnyddio mewnoliadau clir i adlewyrchu strwythur y safle. I gefnogi’r gwe-lywio, darperir map safle.

panel