



Cynhyrchwyd yr adnodd hwn gan adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHS Blood and Transplant). Sefydlwyd Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHSBT) yn Awdurdod Iechyd Arbennig ym mis Hydref 2005 ar ôl uno’r Awdurdod Gwaed Cenedlaethol a UK Transplant. Ei nod yw darparu cyflenwad dibynadwy, effeithlon o waed, organau a gwasanaethau cysylltiedig i’r GIG.
Ewch i wefan NHSBT

Cyflwyniad:
Ym mis Hydref 2005, canfu Jeanette, athrawes Saesneg, fod arni Lewcemia Myeloid Acíwt. Roedd angen trawsblaniad mêr esgyrn arni, ond oherwydd ei threftadaeth hiliol gymysg, nid oedd modd canfod rhoddwr addas. Bu ei gŵr, Adam, yn gweithio’n gadarnhaol drwy wneud ymchwil annibynnol mewn ysgolion a chyda’r cyhoedd i lefelau’r ymwybyddiaeth gyffredinol am roi mêr esgyrn.
O ganlyniad i hyn, cyfrannodd llywodraeth y DU gyllid ar gyfer rhaglen addysgol mewn ysgolion i hyrwyddo pwysigrwydd rhoi organau, gwaed, meinweoedd a mêr esgyrn yn ystod oes ac ar ôl marw.
Yn anffodus, flwyddyn ar ôl ei diagnosis, bu farw Jeanette o’i chyflwr heb ganfod rhoddwr cyfatebol.
